Cofnodion y Cyngor
Cyngor Cymuned Betws-y-Coed
Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar y 11eg Ebrill 2023
Presennol- Mari E M Mathews Cadeirydd, Anna Brown, Janet Charlton, Ffiona Jones, Catherine Williams, Cyng Elizabeth Roberts Conwy CBC, Caerwyn Roberts Clerc.
Ymddiheuriadau , Neil Pringle
Datgan diddordeb Datganwyd diddordeb gan Mari E M Mathews yng nghofnod [2.8 Hanging Pizzeria ]a ni chymerodd unrhyw ran tra bu'r mater yn cael ei drafod.
Cofnodion. Cadarnhawyd cofnodion cyfarfod a gynhaliwyd ar y 13eg Fawrth 2023
Materion yn codi
[1] Cymuned Di Plastig
Croesawyd Michelle Bayliss i’r cyfarfod a chafwyd adroddiad ganddi am fwriad y Gymdeithas Twristiaeth Betws-y-Coed i greu cymuned di plastig. Croesawyd y fenter gan yr aelodau, a chynigwyd gan Catherine Williams ac eiliwyd gan Ffiona Jones bod y Cyngor yn cefnogi’r fenter.
Y Cyngor hefyd i ethol aelod i wasanaethau ar y grŵp Cymuned Di Plastig.
Materion yn codi
(1] Yr Heddlu
Nid oedd yr heddlu’n bresennol
[1.1] Pont Droed/ Pont-y-Pair
Dywedodd y clerc ei fod yn disgwyl gair gan yr ymgynghorwyr ynglyn ac astudiaeth dichonoldeb.
[1.2] Tai Fforddiadwy/ Cartrefi Conwy
Nodwyd bod y mater yn parhau.
[1.3] Materion Parcio Bro Gethin
Nodwyd y ddogfen tender a baratowyd gan y Cadeirydd.
[1.4]Llystyfiant Pont-y-Pair
Nodwyd bod prif wariant Cyngor BS Conwy wedi ei ohirio hyd nes bydd blaenoriaeth wedi ei wneud i adolygiad i’r brif raglen cyfalaf.
[1.5] Dyn mewn Fan
Dywedodd y clerc bod taflen waith yn cael ei pharatoi gan Edward Jones APCE.
[1.6] Swyddog Rheoli Prosiect
Eglurodd y Cadeirydd bod swydd ddisgrifiad y Swyddog Prosiect wedi ei gwblhau. Y Cadeirydd a’r clerc hefyd i drafod swydd ddisgrifiad Clerc y Cyngor
[1.7] Clwb Peldroed Betws/ Codi Uchder y Ffens / Ystafelloedd Newid
Nodwyd llythyr o ddiolch gan Tony Godbert am gyfraniad o £600.00 gan y Cyngor
[1.8]Safle We'r Cyngor
Nodwyd bod y mater yn parhau.
[1.9] Hen Eglwys Saint Mihangel/ Cyflwr y fynwent
Dywedodd y Cyng Janet Charlton bod y fynwent yn gymharol daclus ar hyn o bryd.
[2] Mynwent Erw Hedd
Nodwyd ateb Gary Williams [Cyngor B S Conwy] ynglŷn â threfniadau ar gyfer claddu yn y fynwent. Cadarnhaodd y bydd yn cysylltu’n bellach.
[2.1] Gwelliannau Glan yr Afon Pont-y-Pair
Eglurodd y clerc bod y gwaith ychwanegol wedi ei ohirio ar hyn o bryd
[2.2] Cae Chwarae Pentre’ Du
Penderfynwyd derbyn pris £720.00 a ychwanegiad TAW gan Gary Pierce i osod y byrddau yn y cae chwarae. Cytunodd Cyng Elisabeth Roberts a Catherine Williams i gwrdd yn y cae i benderfynu eu lleoliad.
[2.3] Ms Beth Thomas
Dywedodd y clerc nad oedd gair pellach wedi ei dderbyn gan Ms Thomas ynglŷn â’i aelodaeth o’r Cyngor Cymuned. Penderfynwyd felly bod y sedd yn wag. Y clerc i gysylltu gyda Chyngor BS Conwy ynglŷn â’r ddwy sedd wag.
Y Brif Agenda
[2.4] Teithio Llesol
Nodwyd bod cyfarfod [Zoom] Teithio Llesol wedi ei drefnu ar gyfer 26ain Ebrill 2023.
[2.5]Materion Ariannol
[a] Cymeradwywyd y taliadau a’r derbyniadau a amlinellwyd gan y clerc i ddiwedd Mawrth 2023.
[b] Eglurodd y clerc bod y nifer yn ymweld ar Rhaeadr Ewynnol wedi gostwng yn gymharol i gyfnod mis Mawrth 2022.
[2.6] Asesiad Risg Neuadd Goffa/Rhaeadr Ewynnol
Y clerc i atgoffa Cyngor BS Conwy ynglyn ar ymholiad yn ymwneud ac asbestos o fewn y neuadd
[2.7] Byrddau’n Cysgodi Lleoliad Gwag wrth Westy’r Pont-y-Pair.
Nodwyd ymateb gan y Parc Cenedlaethol bod cyflwr y byrddau’n dderbyniol ar hyn o bryd. Y clerc i anfon at Ultimate Outdoors i geisio cael eu tacluso.
[2.8] Hanging Pizzeria Ffordd yr Orsaf
Cyfeiriodd y clerc at lythyr yn datgan pryder bod lleoliad o flaen y caffi wedi ei gau ac nad oedd yn bosib i’r cyhoedd yn enwedig yr henoed groesi’r ffordd yn ddiogel.
Cytunodd y Cyng Elisabeth Roberts gysylltu gyda Jonathan Cawley APCE ynglyn a’r mater.
[2.9] Jui Jitsu
Nodwyd nad oedd Mr Amaan Abassi wedi derbyn ateb gan Gyngor Chwaraeon Cymru a hefyd Cyngor BS Conwy i’w gais am grant tuag at wersi Jui Jitsu. Y clerc i anfon gair bod y Cyngor Cymuned yn bwriadu creu cronfa fechan a fydd yn agored i fudiadau lleol geisio grant.
[3] Llogi’r Neuadd Goffa
Gan ystyried bod costau gwres a golau wedi cynyddu, penderfynwyd gosod y prisiau canlynol i logi’r neuadd;
Unigolyn neu fudiad lleol o fewn y gymuned £20.00 am fore, prynhawn/nos
Unigolyn neu fudiad oddi allan i’r gymuned £25.00 yr awr. Lleiafswm cost 2 awr.
[3.1] Nodwyd y wybodaeth canlynol
APCE Adroddiad Adolygiad Cynllun Datblygu Lleol Eryri.
Mari E M Mathews, Cadeirydd