Cyngor Cymuned Betws-Y-Coed
Croeso i wefan Cyngor Cymuned Betws-y-Coed. Gobeithio y byddwch yn darganfod y wefan yn ddefnyddiol a gwybodus.
Mae’r Cyngor yn cynrychioli cymuned Betws-y-Coed yn ogystal a diddordebau'r miloedd lawer o ymwelwyr sydd yn mwynhau'r tawelwch ynghyd a harddwch y lleoliad yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri.
Mae’r Cyngor yn gyfrifol am amryw o adnoddau lleol sef y Rhaeadr Ewynnol, y Neuadd Goffa, a Chae Llan.