Y Neuadd Goffa
Adeiladwyd y Neuadd Goffa yn 1927 trwy gyfraniad lleol, fel coffâd parhaol i drigolion y gymuned a gollwyd yn y Rhyfel Mawr.
Mae’r adeilad mawr carreg yn amlwg ar fryn yng nghanol y pentref i’r gogledd o’r afon Llugwy.
Yn adeilad sylweddol, gan gynnwys neuadd fawr, llwyfan, balconi, toiledau, cegin ac ystafelloedd ategol.
Wedi ei ddylunio yn gyfleuster ar gyfer y gymuned leol ac wedi cyflawni hynny yn ystod yr 80 deg mlynedd diwethaf, mae’n parhau i fod yn gyfleuster pwysig i fudiadau lleol. Er i’r adeilad fod yn berchen Cyngor BS Conwy, mae cynhaliaeth a rheolaeth yr adeilad o dan ofalaeth y Cyngor Cymuned.
Costau Llogi:
Mudiadau Lleol £15.00 am y bore, prynhawn neu fin nos
Mudiadau Allanol £10.00 yr awr.Cost lleiafswm £20.00
Cyfeiriad: Memorial Hall, Mill Street, Betws-y-Coed LL24 OBB
Am ragor o wybodaeth ynglyn a chofeb y ddau ryfel byd trwy History Points.org cliciwch yma