Llwybr Tan Dinas
Yn brosiect gan Cydcoed Coetiroedd i Bawb, trwy Gomisiwn Coedwigoedd Cymru a ariannwyd gan yr Undeb Ewropeaidd ar Cynulliad Cenedlaethol. Cafodd y llwybr ei greu gan Gyngor Cymuned Betws-y-Coed ac wedi ei ddylunio ar gyfer pob oed yn enwedig yr anabl. Mea'r Llwybr o dan rheolaeth Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae’n arwain trwy goedwig brydferth ac yn dilyn yr afon Llugwy am 350 metr ac yn ymestyn i 900 metr yn gyfan gwbl.
Mae cychwyniad y llwybr gyferbyn a maes parcio Pont-y-Pair ym mhen ucha’r pentref.